Senedd Cymru | Welsh Parliament 
 Ymchwil y Senedd | Senedd Research 
 P-06-1567 Condemnio'r grŵp asgell dde eithafol 'White Vanguard' yng Nghymru, ac ymchwilio iddo
 Y Pwyllgor Deisebau | 26 Ionawr 2026
 Petitions Committee | 26 January 2026
 Cyfeirnod: RS26/12887/2
Cyflwyniad

Rhif y ddeiseb: P-06-1567

Teitl y ddeiseb: Condemnio'r grŵp asgell dde eithafol 'White Vanguard' yng Nghymru, ac ymchwilio iddo

Geiriad y ddeiseb: Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gondemnio White Vanguard a chymryd camau yn erbyn y grŵp, y mae ei aelodau wedi ymuno â gwrthdystiadau wythnosol y tu allan i'r Holiday Inn Express yn y Rhws, sy'n lletya teuluoedd o Affganistan sydd yma'n gyfreithlon o dan gynllun adsefydlu'r Llywodraeth.

Er bod gwahardd grwpiau eithafol yn fater i Swyddfa Gartref y DU, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru:
• i annog Llywodraeth y DU i ymchwilio i White Vanguard a gwahardd y grŵp;
• i gondemnio’n gyhoeddus weithgaredd neo-Natsïaidd yng Nghymru
• i weithio gyda Heddlu De Cymru a’r cynghorau i ymdrin â bygythiad yr asgell dde eithafol; ac
• i gefnogi cymunedau drwy fentrau gwrth-hiliol a mentrau diogelu.

Rydym yn annog y Senedd i ddangos nad oes lle i gasineb yng Nghymru.
Cyflwynir y ddeiseb hon gan The Vale for Palestine, grŵp cymunedol sydd wedi'i leoli ym Mro Morgannwg.

The text provided above is submitted by the petitioner. The petitions team make every effort to ensure it preserves their authentic voice. This text has not been verified for accuracy, or errors, and may contain unverified opinions or assertions.

Mae'r testun uchod yn cael ei gyflwyno gan y deisebydd. Mae'r tîm deisebau yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ei fod yn cadw ei lais dilys. Nid yw'r testun hwn wedi'i wirio am gywirdeb, neu wallau, a gall gynnwys barn neu honiadau heb eu gwirio.

 


 

1. Y cefndir

1.1. White Vanguard

Mae’r grŵp White Vanguard yn disgrifio ei hun fel a ganlyn:

White Vanguard, are a group of National Socialist activists committed to exercising our rights to protest and the use of freedom of expression within the bounds of United Kingdom law.

Ym mis Mehefin 2025, dywedodd y sefydliad HOPE not Hate (y mae ei waith yn canolbwyntio ar yr asgell dde eithafol drefnedig) fod y grŵp wedi’i ddechrau’n swyddogol ym mis Mawrth ac iddo darddu o’r Youth Alliance (YA). Mae’n adrodd i YA, a oedd yn grŵp bychan hynod wrthsemitaidd, ymsefydlu a chwalu y llynedd.

Mae'r deisebydd yn nodi bod y grŵp White Vanguard yn "arddangos sloganau gwrthsemitaidd, yn perfformio saliwtiau Natsïaidd, ac yn lledaenu damcaniaethau cynllwyn hiliol, gan fygwth diogelwch a chydlyniant cymunedol.”

Mae’n mynd ymlaen i ddweud y canlynol:

Mae'r gwrthdystiadau hiliol parhaus yn y Rhws wedi codi ofn ar drigolion a grwpiau cymunedol. Mae'r protestiadau swnllyd a sarhaus hyn yn bygwth teuluoedd o Affganistan, pobl o bob cefndir a'r unigolion sy'n croesawu ffoaduriaid. Mae protestwyr wedi perfformio cyfarchiadau Natsïaidd, canu camdriniaeth ffiaidd, a pheryglu diogelwch y cyhoedd. Mae'r bygythiad wedi tyfu gyda dyfodiad White Vanguard, y mae ei aelodau yn gwisgo mygydau ac yn dangos symbolau Natsïaidd a sloganau gwrthsemitaidd.

Ar 31 Hydref 2025 cyflwynodd White Vanguard ei ddeiseb ei hun yn galw ar Lywodraeth Cymru i gondemnio a chymryd camau yn erbyn ‘Antifa’ (mudiad gwleidyddol gwrth-ffasgaidd a gwrth-hiliol asgell chwith)". Gwrthodwyd y ddeiseb gan na chasglwyd y 250 o lofnodion sydd eu hangen i'w chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau.

1.2. Deddf Terfysgaeth 2000

O dan Ddeddf Terfysgaeth 2000, gall Llywodraeth y DU wahardd sefydliadau y mae'n ystyried eu bod yn cymryd rhan mewn terfysgaeth neu'n hyrwyddo terfysgaeth. Ar gyfer dibenion y ddeddf, mae hyn yn golygu bod y sefydliad:

§    yn cyflawni neu'n cymryd rhan mewn gweithredoedd terfysgol

§    yn paratoi ar gyfer terfysgaeth, yn hyrwyddo neu'n annog terfysgaeth (gan gynnwys clodfori terfysgaeth yn anghyfreithlon), neu

§    yn ymwneud â therfysgaeth fel arall.

Pan gaiff sefydliad ei wahardd, mae'n drosedd perthyn iddo neu ei gefnogi. Unwaith y caiff ei benderfynu bod sefydliad yn haeddu cael ei wahardd, caiff ei wahardd ledled y DU gyfan.

Mae Adran 121 y Ddeddf yn diffinio “sefydliad” fel unrhyw gymdeithas neu gyfuniad o bersonau. Ym mis Rhagfyr 2025 roedd 84 grŵp terfysgol rhyngwladol wedi'u gwahardd o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000 a 14 sefydliad yng Ngogledd Iwerddon wedi'u gwahardd o dan ddeddfwriaeth flaenorol.

Mae Adran 3 y Ddeddf yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud gorchmynion i ychwanegu sefydliadau at y rhestr yn Atodlen 2 neu eu dileu oddi arni, neu i ddiwygio'r Atodlen mewn rhyw ffordd arall. Mae'r gorchmynion hyn yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ac felly mae angen cymeradwyaeth dau Dŷ Senedd y DU arnynt - nid oes rôl i'r deddfwrfeydd datganoledig yn y broses hon. Roedd y gorchmynion gwahardd diweddaraf yn ymwneud â Palestine Action, Maniacs Murder Cult a’r Russian Imperial Movement.

Mewn gohebiaeth â’r Pwyllgor, mae Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yn ailadrodd safbwynt Llywodraeth Cymru:

Byddwn bob amser yn cefnogi protest heddychlon sy'n gweithredu o dan y gyfraith, ond ni fyddwn yn caniatáu i eithafiaeth a lleisiau a allai achosi rhwyg rhwng pobl danseilio'r gwerthoedd sy'n ein dwyn ynghyd. Rydym yn parhau i leisio ein gwrthwynebiad cryf ac absoliwt i gasineb ar bob ffurf, fel y gwnes yn ddiweddar drwy Ddatganiad Llafar Mae Casineb yn Brifo Cymru ar 14 Hydref.

Mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn ailddatgan gosodiad y deisebydd nad yw gwahardd grwpiau o dan Ddeddf Terfysgaeth 2000 yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru. Mae’n ychwanegu:

“Nid yw ein barn ynghylch a ddylid gwahardd grwpiau penodol neu beidio yn ffactor perthnasol yn y ffordd y mae'r Ysgrifennydd Cartref yn gwneud y penderfyniadau hyn.”

Wrth ymateb i'r honiadau a wnaed gan y deisebydd mewn perthynas ag ymddygiad rhai o'r protestwyr yn y Rhws, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei annog i gyflwyno'r dystiolaeth hon i'r heddlu fel yr asiantaeth briodol.

1.3. Protestio a phwerau’r heddlu

Mae hawl unigolyn i ryddid mynegiant a rhyddid i ymgynnull yn cael ei gwarchod gan Erthyglau 10 ac 11 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sydd wedi'i ymgorffori yng nghyfraith y DU. Nid yw'r hawliau hyn yn absoliwt, felly mae Llywodraeth y DU wedi deddfu i gyfyngu ar yr hawl i brotestio er mwyn cynnal trefn gyhoeddus i amddiffyn hawliau a rhyddid eraill.

Sefydlodd Deddf Trefn Gyhoeddus 2023 nifer o droseddau sy'n ymwneud â phrotestio, gan gynnwys rhwystro gwaith trafnidiaeth mawr ac ymyrryd â seilwaith cenedlaethol allweddol. Mae yna sawl trosedd arall a allai hefyd fod yn berthnasol i ymddygiad person yn ystod protest, nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â'r weithred o brotestio, gan gynnwys achosi niwsans cyhoeddus.

Os daw'n gyfraith, bydd y Bil Troseddu a Phlismona yn cyflwyno mesurau pellach gyda'r nod o gyfyngu ar ymddygiadau penodol yn ystod protestiadau,gan gynnwys creu troseddau newydd ynghylch camddefnyddio fflerau a thân gwyllt, dringo ar gofebion rhyfel a cheisio osgoi atebolrwydd troseddol drwy i rywun orchuddio ei wyneb i guddio rhag cael ei hadnabod.

Ym mis Hydref 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n cyflwyno deddfwriaeth i ganiatáu i'r heddlu osod amodau ar brotestiadau rheolaidd sy'n cael effaith aflonyddwch cronnol.

Ar ben hynny, ym mis Rhagfyr 2025, lansiodd Llywodraeth y DU adolygiad o ddeddfwriaeth ynghylch protestio i weld a yw'r gyfraith yn parhau i ateb y gofyn, asesu a yw trothwyon a mesurau diogelu yn gywir ac yn effeithiol, ac argymell diwygiadau a fyddai’n gwella cysondeb, amddiffyn hawliau ac argyhoeddi cymunedau yr effeithir arnynt. Disgwylir adroddiad ym mis Chwefror 2026.

Pan ofynnwyd iddi ym mis Gorffennaf 2025 ynghylch yr hawl i brotestio, dywedodd y Prif Weinidog:

Yn amlwg, mae'n rhaid cael llinell o ran torri'r gyfraith ac o ran ysgogi casineb hiliol. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn glir iawn ynghylch hynny, ond, yn fy marn i, mae'r hawl i brotestio yn hawl sanctaidd o ran sut rydym ni'n ei wneud yng Nghymru, ac mae'r rhain mewn gwirionedd yn erthyglau 10 ac 11 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, sy'n sicrhau pobl o'r hawl i allu mynegi eu hunain yng Nghymru.

Yn yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, mae hi'n ailddatgan cefnogaeth i brotestiadau heddychlon ond yn ychwanegu na ddylai eithafiaeth na lleisiau anghydfod, danseilio'r “gwerthoedd sy'n ein dwyn ynghyd.”

2. Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd nifer o gamau i gefnogi cydlyniant cymunedol drwy fentrau gwrth-hiliaeth a diogelu. Amlygwyd y rhain gan y Prif Weinidog ym mis Medi 2025 pan ofynnwyd iddi ba gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael ag eithafiaeth asgell dde:

We’ll never tolerate hate in Wales. That’s why the Welsh Labour Government has invested £1.6m in our Community Cohesion Programme. We’ve supported 7,000 hate crime victims. We’re running our Hate Hurts campaign this autumn and we’re working with schools and police to stop extremism at its root. While Reform thrives on division, Welsh Labour brings people together because in Wales we choose unity, and we’re proud to be a nation where everyone belongs.

Prif ymyriad Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi cydlyniant yw'r Rhaglen Cydlyniant Cymunedol, a sefydlwyd yn 2009. Mae'n weithredol ym mhob un o 22 awdurdod lleol Cymru ac mae wedi'i rhannu'n wyth o 'ranbarthau cydlyniant' sy'n darparu fframwaith Cymru gyfan i ymateb i anghenion cymunedau lleol.

Yn 2019, yn sgil aran ychwanegol, helaethodd y timau cydlyniant i gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys monitro tensiynau cymunedol a meithrin cysylltiadau da. Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu cynllun gwaith rhanbarthol ar y cyd â llywodraeth leol ac yn monitro cynnydd bob chwarter. Yn ei gohebiaeth, dywed Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol bod y rhaglen wedi derbyn £1.6 miliwn o ganlyniad i gynnydd o 25% mewn cyllid eleni, gan ychwanegu bod y rhaglen "yn fecanwaith allweddol i helpu Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i fonitro a lliniaru tensiynau o fewn cymunedau ledled Cymru".

Yn 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch Mae casineb yn brifo Cymru gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o effaith troseddau casineb ar ddioddefwyr o gymunedau ethnig leiafrifol. Bydd deunyddiau amrywiol yr ymgyrch yn mynd i'r afael â dioddefwyr, troseddwyr a’r rhai sy’n dyst i droseddau casineb. Bydd deunyddiau ymgyrchu yn cael eu datblygu gyda phobl sydd wedi cael eu heffeithio gan droseddau casineb hiliol. Ym mis Chwefror 2023, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ail-lansio’r ymgyrch Mae casineb yn brifo Cymru gyda gweithgareddau i’r cyfryngau drwy gydol y flwyddyn gyda’r nod o rymuso dioddefwyr a thystion i roi gwybod am droseddau casineb. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r gyllideb ar gyfer yr ymgyrch o fwy na 80% yn 2025-26 gan ganolbwyntio ar helpu i sicrhau bod dioddefwyr yn dysgu am y cymorth sydd ar gael.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliolym mis Mehefin 2022. Mae'r cynllun yn cynnig gweledigaeth o Gymru sy'n wrth-hiliol erbyn 2030 ac yn cynnwys camau gweithredu i fynd i'r afael â hiliaeth a gwneud newidiadau ystyrlon a mesuradwy i fywydau pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Mae'r Cynllun yn cynnwys nod i

Sicrhau bod Cymru yn parhau i anelu at fod yn wlad wrth-hiliol sy’n lle diogel i fyw ynddi, drwy ddileu agweddau atgas a chefnogi’r rhai sy’n dioddef troseddau casineb â chymhelliant hiliol.

Yn y diweddariad o'r Cynllun yn 2024, ailddatganodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i fynd i'r afael â throseddau casineb sydd yn cynnwys: 

[…] gwaith ataliol, darparu cymorth i ddioddefwyr, a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth, drwy ariannu a chyflwyno Canolfan Cymorth Casineb Cymru, ymgyrch Casineb yn brifo Cymru, a Rhaglen Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru.

Er mwyn cyflawni'r ymrwymiadau casineb a chydlyniant yn y Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-Hiliol, sefydlodd Llywodraeth Cymru’r Bwrdd Casineb a Thensiwn Cymunedol sy'n cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn. Mae'r aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o Heddlu De Cymru a Llywodraeth Cymru. Mewn gohebiaeth â'r Pwyllgor, mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn ailddatgan yr ymrwymiad i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030 ac i'r camau gweithredu a nodir yn y Cynllun.

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Rhwng mis Mawrth 2023 a mis Chwefror 2024, cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymchwiliad i’r gwaith o gyflwyno’r Cynllun Gweithredu a daeth i'r casgliad bod angen gwneud rhagor o waith os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni ei gweledigaeth o Gymru wrth-hiliol. Fe wnaeth rhan fwyaf y sefydliadau a rannodd eu barn â’r Pwyllgor gymeradwyo gweledigaeth a chwmpas cynhwysfawr y Cynllun, ond cododd y rhan fwyaf ohonynt bryderon ynghylch ei weithredu a chyflymdra’r cynnydd. Mae'r strategaeth wedi'i hadnewyddu yn adlewyrchu rhai o argymhellion y Pwyllgor, yn enwedig ynghylch yr angen i gryfhau arweinyddiaeth gyffredinol y cynllun. 

Mewn ymateb i densiynau cynyddol o fewn cymunedau yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DU, cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymchwiliad i gydlyniant cymdeithasol yn 2025. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Fonesig Khan (cyn gynghorwr i Lywodraeth y DU) a gyfeiriodd at dirwedd o eithafiaeth sy'n esblygu ac yn cyflymu.

Mae adroddiad y Pwyllgor, Cyd-dynnu, nid tynnu’n groes: rhaid i Gymru weithredu, yn tynnu sylw at heriau cynyddol i gydlyniant cymdeithasol ac yn galw am gamau gweithredu cydlynol brys. Argymhellodd sefydlu Grŵp Arbenigol ar Gydlyniant Cymdeithasol gyda chynrychiolwyr o lywodraeth leol, yr heddlu, timau cydlyniant, y trydydd sector a'r Bartneriaeth Mewnfudo Strategol, i ddyfeisio camau i’w gweithredu ar unwaith, ar gyfer y tymor canolig a’r tymor hir, i fynd i'r afael â'r heriau hyn.

Mewn ymateb i'r bygythiadau cynyddol i gydlyniant cymdeithasol o ganlyniad i gynnydd mewn safbwyntiau a gweithgareddau eithafol, argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r Grŵp Arbenigol gynnal gwaith i nodi'r heriau y mae hyn yn eu peri i Gymru a nodi'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael â gweithgareddau'r asgell dde eithafol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn ar unwaith a sefydlodd grŵp arbenigol dan gadeiryddiaeth Gaynor Legall. Cyfarfu'r grŵp ar 20 Tachwedd 2025 a disgwylir i’w argymhellion gael eu cwblhau erbyn mis Mawrth 2026.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.